Advert
The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.
Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae Canolfan Dysgu Cymraeg Caerdydd yn darparu cyrsiau Cymraeg i oedolion ar bob lefel ac yn cynnig ystod o gyrsiau gwahanol, gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl, gweithle a chyrsiau e-ddysgu.
Rydym yn chwilio am diwtoriaid cysylltiol newydd i ymgymryd â gwaith fesul awr, gyda'r nos yn bennaf, o lefel cyn-fynediad hyd at lefel hyfedredd yn ddibynnu ar brofiad.
Mae'r swydd hon yn un fesul awr, am gyfnod penodol, hyd at 31 Gorffennaf 2027. Os ydych am drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu â Lowri Bunford-Jones.
Cyflog: £29,762 - £34,314 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 24 Ebrill 2023
Dyddiad cau: Dydd Llun, 19 Mehefin 2023
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Job Description
Dysgu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion ar ran Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd mewn lleoliadau amrywiol ac ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy'n gysylltiedig â’r gwaith yn ôl y galw.
Prif Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Cyfrannu at ddysgu cyrsiau Cymraeg i Oedolion o lefel Cyn-fynediad hyd at Lefel Hyfedredd yn dibynnu ar brofiad.
- Dysgu ar amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Cymraeg yn y Gweithle, Cymraeg i’r Teulu, cyrsiau cyfunol yn ogystal â chyrsiau prif ffrwd.
- Ysbrydoli dysgwyr CiO a’u hannog i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol er mwyn symud tuag at ruglder.
- Marcio ac asesu gwaith dysgwyr Cymraeg i Oedolion gan gynnwys rhoi adborth adeiladol priodol.
- Darparu gofal bugeiliol trwy roi cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr gan feithrin a sefydlu ymddiriedaeth.
- Ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol e.e. cynnal a chadw cofrestri dosbarth, adolygu cynlluniau dysgu.
- Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol sydd yn addas i’r swydd ac a fydd yn ychwanegu at y perfformiad fel tiwtor Cymraeg i Oedolion.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Gwneud yn siwr bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau.
- Cadw at bolisïau'r Brifysgol ym meysydd Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
- Cyflawni dyletswyddau eraill ar adegau nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl
Person Specification
Cymwysterau ac Addysg
1. Cymhwyster dysgu Cymraeg fel ail iaith, profiad o addysgu Cymraeg i Oedolion cyn 2002 neu ymrwymiad i gymhwyso.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Cymraeg o ansawdd uchel ar lafar ac yn ysgrifenedig.
3. Gallu i ddysgu ym maes Cymraeg i Oedolion ar y lefel ansawdd briodol.
4. Sgiliau Technoleg Gwybodaeth e.e. Microsoft Office gan gynnwys y we ac e-bost.
Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm
5. Sgiliau cyfathrebu diamheuol, gan gynnwys cyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol.
6. Sgiliau arbennig o dda o safbwynt trefnu a gweithio mewn tîm.
Meini Prawf Dymunol
7. Profiad o addysgu Cymraeg i Oedolion.
8. Profiad o e-ddysgu e.e. bwrdd gwyn rhyngweithiol.
9. Gwybodaeth am wahanol dechnegau dysgu ail iaith (y Gymraeg neu iaith fodern).
Additional Information
Salary Range Min.
Salary Range Max.
Job Category
Grade